Lleoedd cyhoeddus
Wigan pier


Roedd amcanion y dyluniad yn cynnwys creu llwybr a oedd galluogi symudiad drwy’r ardal ac yn parchu llinellau dymunol, a trin y ffin gyda Pottery Road i gymryd mantais o’r cysylltiadau i alluogi gwyliadwriaeth naturiol i fewn ac allan o’r ardal. Hefyd fe adeiladwyd ardal eistedd wedi ei naddu i roi lle i orffwys a chymryd mantais o’r golygfeydd tuag at y gamlas.

Fel rhan o ddatblygu’r dyluniad fe adeiladwyd model 3D. Cafodd hwn ei ddefnyddio mewn ymgynghoriad gyda’r cyhoedd ac i gefnogi cyd-drefniant y prosiect. Drwy gydol y broses fodelu bu dadansoddi i benderfynu lleoliadau gorau goleuadau i greu ardal segur a deniadol i’r cyhoedd ddefnyddio yn ystod y nos.
