Preswyl

Foxglove meadows


Paratoi pen-gynllun tirwedd ar gyfer datblygiad preswyl newydd ar safle Ysgol Bettws ger Casnewydd. Fel rhan o’r prosiect, sydd yn cynnwys dros 200 o dai newydd, paratowyd cynlluniau tirwedd. Bwriad y dyluniad oedd i gyfuno’r datblygiad i mewn i’r tirwedd a’r ardal o gwmpas, tra hefyd yn darparu amgylchedd ddymunol a gwyrdd drwy’r flwyddyn.

Yn dilyn adolygiad o’r ecoleg a choed fe gynhwyswyd y dyluniad tirwedd blannu coed strategol o fewn gerddi ac ardaloedd cyhoeddus, prysgwydd, gwrychoedd a plannu prysgwydd addurnol tra’n cadw’r tyfiant gwreiddiol o amgylch y safle.


Bwriad y dewis o blanhigion oedd i greu diddordeb drwy’r flwyddyn tra’n defnyddio cymysg o rhywogaethau addurnol a chynhwynol/naturiol i fwyhau bioamrywiaeth y safle. Drwy ymgynghori gyda’r awdurdod lleol fe gynhyrchwyd cynllun manwl o blannu yn cynnwys rhywogaethau, trwch plannu a lleoliadau.



Hafan    Nesaf︎

Mark