Lleoedd cyhoeddus
King square, Caerloyw



Mae’r ffurf a’r cynllun wedi ei ddylunio wrth astudio sut mae pobl yn agosáu at y sgwâr, sut mae nhw’n symud drwy’r lleoliad, ac lle mae’r mannau cyfarfod a croesi. Rhoddodd dadansoddiad o’r gwybodaeth y cyfle i edrych ac defnyddio’r posibilrwydd o gyfuno tirwedd gyda’r amgylchedd adeiladol. Buasai hyn hefyd yn galluogi creu adeilad tra’n gwneud y gorau o’r ardaloedd cyhoeddus ar gael.

Mae pob un o’r pedwar wyneb prysur o’r sgwâr wedi ei ddylunio i greu y ffurf cynllun perimedr o adeiladu traddodiadol. Mae llinell ddymunol (naturiol) lletraws sydd yn croesi’r ardal wedi ei adlewyrchu gyda palmant llinellol sydd yn helpu pobl i symud drwy’r ardal ac i mewn i’r adeilad. Mae nodweddion tirwedd newydd yn cynnwys patrwm palmant sydd yn dathlu y haenau o hanes gwahanol, dodrefn stryd gwreiddiol, ffownten chwarae gyda dŵr, coed stryd a to gwyrdd hawdd ei gyrraedd.

